Bob Holness
Gwedd
Bob Holness | |
---|---|
Ganwyd | 12 Tachwedd 1928 Vryheid |
Bu farw | 6 Ionawr 2012 Pinner |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, troellwr disgiau, actor, darlledwr |
Cyflogwr |
|
Plant | Nancy Nova |
Cyflwynydd teledu a radio o Loegr a aned yn Ne Affrica oedd Robert Wentworth John Holness (12 Tachwedd 1928 – 6 Ionawr 2012). Ef oedd yr ail actor i bortreadu'r cymeriad James Bond, a'r cyntaf i wneud hynny ar radio, mewn addasiad o'r nofel Moonraker ym 1956.[1] O 1983 hyd 1994 cyflwynodd y sioe gêm Blockbusters. Yn ôl chwedl drefol, Holness a chwaraeodd y sacsoffon yn y gân "Baker Street" gan Gerry Rafferty, ond nid yw hyn yn wir.[2]
Teledu
[golygu | golygu cod]- Take a Letter (1961)
- Today (1968)
- Blockbusters (1983-1994)
- Raise the Roof (1995)
- Call My Bluff (1996)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Bob Holness, former Blockbusters host, dies aged 83. BBC (6 Ionawr 2012). Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Why do we think Bob Holness was the Baker Street saxophonist?. BBC (5 Ionawr 2011). Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2012.